Swansea University

Pro Vice Chancellor, Education

Job Reference WASYO
Closing Date Monday 18 Apr 2022

Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration and discovery. We offer a compelling balance of excellent teaching and research, matched by an enviable quality of life on our two beachfront campuses. Having celebrated our centenary year in 2020, we are extremely proud of how our University has contributed to the transformation of Swansea as a city of distinction. With over 20,000 students, we have enjoyed a period of tremendous growth. We are ranked Top University in Wales and a Top 25 UK University in the Guardian University Guide 2022.

Students are at the heart of what we do, evidenced by our University of the Year award, in the 2019 What Uni Student Choice Awards. In the 2021 National Student Survey (NSS) results, we ranked 12th in the UK for Student Satisfaction. Swansea University currently holds TEF Gold, the highest possible rating in the national Teaching Excellence Framework, cementing its position as a top UK university. We are an ambitious institution who provide an outstanding and balanced academic environment that enables students and colleagues to excel.

The Pro Vice Chancellor, Education will work closely with the Vice Chancellor and the rest of the senior leadership team to further the University’s overall learning, teaching, student experience and civic mission agendas. The PVC Education will lead the Professional Services Directorates covering Academic Services and Student Services, as well as the Swansea Employability Academy (SEA), Swansea Academy for Learning & Teaching (SALT) and the Swansea Academy for Inclusive Learner Success (SAILS).

The incoming PVCE will bring strategic leadership ability, coupled with demonstrable evidence of creating a culture that delivers successful educational outcomes. S/he will be highly personable and approachable, with a high degree of credibility in teaching and learning. The new PVC Education will bring experience of leading major cross faculty/university initiatives that have improved the quality and impact of teaching, employability and the overall student experience in an analogous context.

Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to Swansea University on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference WASYO. Alternatively, telephone +44 (0)20 7227 0880 (during office hours). Applications should be received by noon on Monday 18th April 2022.

 

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod. Rydym yn cynnig cydbwysedd atyniadol rhwng addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd chwenychadwy ar ein dau gampws ar lan y môr. Wedi inni ddathlu ein canmlwyddiant yn 2020, rydym yn falch iawn o sut mae ein Prifysgol wedi cyfrannu at drawsnewid Abertawe fel dinas o ragoriaeth. Gyda thros 20,000 o fyfyrwyr, rydym wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol. Ni yw’r Brifysgol Orau yng Nghymru ac ymysg y 25 Prifysgol Orau yn y DU yn ôl Guardian University Guide 2022.

Mae myfyrwyr wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac mae ein gwobr Prifysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr What Uni 2019 yn dystiolaeth o hyn. Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2021 (NSS), cawsom ein rhoi yn y 12fed safle yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr. Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Abertawe statws TEF Aur, sef y statws uchaf posib yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, gan gadarnhau ei safle fel un o brifysgolion gorau’r DU. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol sy’n cynnig amgylchedd academaidd a chytbwys rhagorol sy’n galluogi myfyrwyr a staff i ragori.

Bydd y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) yn gweithio’n agos gyda’r Is-ganghellor a gweddill yr uwch-dîm arweinyddiaeth er mwyn hybu agendâu dysgu, addysgu, profiad myfyrwyr a chenhadaeth ddinesig cyffredinol y Brifysgol. Bydd y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) yn arwain y Cyfarwyddiaethau Gwasanaeth Proffesiynol, sy’n cynnwys Gwasanaethau Academaidd a Gwasanaethau Myfyrwyr, yn ogystal ag Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA), Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) ac Academi Cynwysoldeb a Chymorth Cynhwysol i Ddysgwyr Abertawe (SAILS).

Bydd y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) newydd yn cyfrannu gallu arweinyddiaeth strategol, ynghyd â thystiolaeth o greu diwylliant sy’n cyflawni canlyniadau addysgol llwyddiannus. Bydd yn unigolyn cyfeillgar ac yn hawdd mynd ato, gyda lefel uchel o gredadwyedd mewn addysgu a dysgu. Bydd gan y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) newydd brofiad o arwain mentrau o bwys ar draws y cyfadrannau/y brifysgol sydd wedi gwella ansawdd ac effaith addysgu, cyflogadwyedd a phrofiad cyffredinol y myfyrwyr mewn cyd-destun cyfatebol.

Mae Saxton Bampfulfe Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe ar gyfer y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut i gyflwyno cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio’r cyfeirnod WASYO. Neu gallwch ffonio +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau gwaith). Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn canol dydd, ddydd Llun 18 Ebrill 2022.

Students are at the heart of what we do, evidenced by our University of the Year award, in the 2019 What Uni Student Choice Awards.