PVC International

Job Reference WASYM
Closing Date Wednesday 22 Apr 2020

Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration and discovery. We offer a compelling balance of excellent teaching and research, matched by an enviable quality of life on our two beachfront campuses. As we enter our centenary year with more than 20,000 students, the University has enjoyed a period of tremendous growth, which has been matched by the highest standards of student experience, ranked in the UK top 10 for overall student satisfaction. We are the Welsh University of the Year, and Runner-up UK University of the Year in the 2019 Times and Sunday Times Guide. We also hold a gold rating, the highest possible, in the national Teaching Excellence Framework (TEF). The Research Excellence Framework saw us achieve our ambition of being a top 30 research university, experiencing the highest rise in the league table of any university.
A world-leading international reputation, along with strong international student recruitment and an attractive transnational education (TNE) offering, is crucial to the University’s continuing success. A new position, Pro-Vice Chancellor (International), will lead the development and implementation of the University’s Internationalisation strategy. Reporting to the Vice Chancellor, this is a strategic leadership role and an influential part of the University’s Senior Leadership Team. The role encompasses building and leveraging global partnerships, delivering academic and commercial partnership opportunities, increasing international student recruitment and developing global opportunities for students. Good candidates will bring strategic leadership at executive or near-executive level. Specifically, s/he will bring experience of developing and implementing a successful TNE strategy alongside experience of leading major internationalisation initiatives in both student recruitment and global partnerships.
Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to the Swansea University on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference WASYM. Alternatively, telephone +44 (0)20 7227 0880 (during office hours). Applications should be received by 17:00 on Wednesday 22 April 2020.
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod. Rydym yn cynnig cydbwysedd atyniadol rhwng addysgu ac ymchwil, ynghyd ag ansawdd bywyd rhagorol ar ein dau gampws ar lan y môr. Wrth i ni ddathlu blwyddyn ein canmlwyddiant â mwy nag 20,000 o fyfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol. Ar yr un pryd, rydym yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, a adlewyrchir gan ein safle yn y 10 o brifysgolion gorau am foddhad cyffredinol myfyrwyr. Abertawe yw Prifysgol y Flwyddyn Cymru, a’r ail brifysgol orau yn y DU yn 2019, yn ôl The Times a Sunday Times Guide. Yn ogystal, dyfarnwyd safon aur i ni, sef y safon uchaf bosib, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) cenedlaethol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, gwireddwyd ein huchelgais o fod ymhlith y 30 prifysgol orau yn y DU am ymchwil, a llwyddom i gyflawni’r cynnydd uchaf o unrhyw brifysgol yn y cynghrair.
Mae enw da yn rhyngwladol, ynghyd â llwyddiant ym maes recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a darpariaeth addysg drawswladol ddeniadol, yn hanfodol i lwyddiant parhaus y Brifysgol. Bydd rôl newydd, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth Rhyngwladoli’r Brifysgol. Dyma rôl arweinyddiaeth strategol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod dylanwadol o Uwch-dîm Rheoli’r Brifysgol, yn atebol i’r Is-ganghellor. Mae dyletswyddau’r rôl yn cynnwys meithrin partneriaethau byd-eang a manteisio arnynt, creu cyfleoedd am bartneriaethau academaidd a masnachol, cynyddu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a datblygu cyfleoedd byd-eang ar gyfer myfyrwyr. Bydd gan ymgeiswyr da brofiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel bwrdd gweithredol neu lefel agos. Yn benodol, bydd gan yr unigolyn brofiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth Addysg Drawswladol lwyddiannus, ynghyd â phrofiad o arwain mentrau rhyngwladoli mawr ym maes recriwtio myfyrwyr ac mewn partneriaethau byd-eang.
Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe yn achos y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut i gyflwyno cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio’r cyfeirnod WASYM. Neu gallwch ffonio +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau gwaith). Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 17:00, dydd Mercher 22 Ebrill 2020.