Swansea University

Associate Dean for International Engagement and Professor, Faculty of Science and Engineering

Job Reference IASYQ
Closing Date Sunday 31 Jul 2022

Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration and discovery. We offer a compelling balance of excellent teaching and research, matched by an enviable quality of life on our two beachfront campuses. Having celebrated our centenary year in 2020, we are extremely proud of how our university has contributed to the transformation of Swansea as a city of distinction. With over 20,000 students, we have enjoyed a period of tremendous growth. We are a Top 25 UK University in the Guardian University Guide 2022.

The Faculty of Science and Engineering is a nationally and globally recognised centre of excellence providing an innovative, inclusive learning environment that produces lifelong learners who are prepared for the global economy, delivering world-class research unencumbered by traditional boundaries between fields, and serves the local, national and global societies in meeting present and future challenges. Our International strategy commits us to growing our international student numbers, to strengthening our international strategic partnerships, to growing our global research networks and to achieving a stronger global profile for our University.

Swansea is looking to appoint a new Associate Dean for International Engagement to support the PVC Executive Dean in the development of the faculty’s international strategy, working closely with the PVC for International Engagement to ensure alignment with the University’s strategy. The post holder will provide leadership across the faculty’s academic community in the implementation of the international strategy. The Associate Dean is a member of the faculty’s leadership team.

Relevant candidates for the role will bring leadership experience in the development and implementation of international engagement strategies, with a track record of delivering global initiatives, collaborations and partnerships.  In addition, they will have a record of achievement as an academic across both teaching and research in a relevant subject area.  The Associate Dean duties will constitute 0.5FTE of your time, with the remaining 0.5FTE spent on academic duties.  The role is offered with an underlying professorial post.

Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to Swansea University on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference IASYQ. Alternatively, telephone +44 (0)20 7227 0880 (during office hours). Applications should be received by noon on 31st July 2022.

 

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod. Rydym yn cynnig cydbwysedd atyniadol rhwng addysgu ac ymchwil, ynghyd ag ansawdd bywyd chwenychadwy ar ein dau gampws ar lan y môr. A ninnau wedi dathlu ein canmlwyddiant yn 2020, rydym yn hynod falch o sut mae ein Prifysgol wedi cyfrannu at drawsnewid Abertawe’n ddinas rhagoriaeth. Gyda thros 20,000 o fyfyrwyr, rydym wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol. Rydym yn un o’r 25 o Brifysgolion Gorau yn y DU yn ôl Guardian University Guide 2022

Mae’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan rhagoriaeth sy’n darparu amgylchedd dysgu arloesol a chynhwysol sy’n creu dysgwyr gydol oes sy’n barod ar gyfer yr economi fyd-eang gan gyflawni ymchwil o safon sy’n arwain yn fyd-eang heb faich y ffiniau traddodiadol rhwng meysydd, ac sy’n gwasanaethu’r cymdeithasau lleol, cenedlaethol a byd-eang wrth ddiwallu heriau’r presennol a heriau’r dyfodol. Drwy ein strategaeth Ryngwladol, rydym yn ymrwymedig i gynyddu niferoedd ein myfyrwyr rhyngwladol, cryfhau ein partneriaethau strategol rhyngwladol, tyfu ein rhwydweithiau ymchwil byd-eang a chyflawni proffil byd-eang cryfach ar gyfer ein Prifysgol.

Mae Abertawe’n awyddus i benodi Deon Cysylltiol newydd dros Ymgysylltu Rhyngwladol er mwyn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol wrth ddatblygu strategaeth ryngwladol y gyfadran, gan weithio’n agos gyda’r Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â strategaeth y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn cynnig arweinyddiaeth ar draws cymuned academaidd y Gyfadran wrth roi’r strategaeth ryngwladol ar waith. Mae’r Deon Cysylltiol yn aelod o dîm arweinyddiaeth y gyfadran.

Bydd ymgeiswyr perthnasol am y swydd yn cynnig profiad arwain wrth ddatblygu strategaethau ymgysylltu rhyngwladol a’u rhoi ar waith a bydd ganddynt hanes o gyflawni cydweithrediadau, partneriaethau a mentrau byd-eang. Yn ogystal, bydd ganddynt gofnod o gyflawniad fel academydd ar draws addysgu ac ymchwil mewn maes pwnc perthnasol. Bydd dyletswyddau’r Deon Cysylltiol yn cyfateb i 0.5 CALl o’ch amser, a byddwch yn treulio’r 0.5 CALl arall yn ymgymryd â dyletswyddau academaidd. Cynigir y rôl mewn cyfuniad â swydd athrawol.

Mae Saxton Bampfulfe Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut i gyflwyno cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio’r cyfeirnod IASYQ. Neu gallwch ffonio +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau gwaith). Dylid derbyn ceisiadau erbyn ganol dydd 31 Gorffennaf 2022.

With over 20,000 students, we have enjoyed a period of tremendous growth. We are a Top 25 UK University in the Guardian University Guide 2022.