Vice-Chancellor

Job Reference WASYE
Closing Date Thursday 15 Nov 2018

Appointment of Vice-Chancellor

Closing date – 15 November 2018

Swansea University is seeking an outstanding leader for the post of Vice-Chancellor to succeed Professor Richard Davies following his successful 15 years in post. This is an opportunity for an exceptional individual to shape the future of the University at a time of transformation.

Swansea University is a top 30 research University, has been awarded TEF Gold and is consistently ranked in the top five institutions in the UK for student experience.  It has recently been recognised as one of the four best universities in the UK for balancing excellence in research with excellence in teaching (THE).   The University has enjoyed a period of tremendous growth in student numbers, research intensity and global reputation, underpinned by the £450m investment in its new Bay Campus which has established Swansea and Wales as a global centre for science and innovation.  This has catalysed the development of an enterprising culture that has increased collaboration with industry and research impact, and secured an enviable reputation for graduate employability.

The new Vice-Chancellor will bring strategic vision, inspiring leadership and innovation to enable the sustainable and continuing transformation of the University. S/he will foster a culture of academic and organisational excellence within the institution, and represent the University locally within Swansea, across Wales, nationally and internationally.  The successful candidate will be an exceptional leader with strong interpersonal, influencing and communication skills.  S/he will bring a deep commitment to providing a world-class student experience in addition to a personal track record in research.  Strong applicants will have significant financial management experience within a large, complex organisation and bring an understanding of and empathy with the University’s Welsh context.  The appointed candidate will need to be committed to learning the Welsh language to a basic level.

Swansea University is committed to equality, diversity and inclusion and welcomes diversity of thought, approach and background in all our people. We are committed to promoting gender equality, and we have been a proud member of the Athena SWAN Charter since 2008. We are proud to hold a Silver Institutional Award – one of only 13 Universities in the UK, and the only non-Russell Group University to achieve this.

Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to Swansea University on this appointment.  For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/jobs. Applications should be received by 5pm on Thursday 15 November.

 

Penodi Is-ganghellor

Dyddiad cau – 15 Tachwedd 2018

Mae Prifysgol Abertawe yn chwilio am arweinydd neilltuol ar gyfer y swydd Is-ganghellor i ddilyn yr Athro Richard Davies ar ôl ei gyfnod llwyddiannus o 15 mlynedd yn y swydd. Dyma gyfle i unigolyn eithriadol lywio dyfodol y Brifysgol yn ystod cyfnod o drawsnewid.

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol ymchwil yn y 30 uchaf, dyfarnwyd statws Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu iddi ac mae’n gyson ymhlith y pum sefydliad gorau yn y DU ar gyfer profiad myfyrwyr.  Fe’i cydnabu’n ddiweddar fel un o’r pedair prifysgol orau yn y DU ar gyfer cydbwyso rhagoriaeth ymchwil â rhagoriaeth addysgu (THE). Mae’r Brifysgol wedi mwynhau cyfnod o dwf mawr mewn niferoedd myfyrwyr, dwysedd ymchwil ac enw rhyngwladol, wedi’u seilio ar fuddsoddiad gwerth £450 miliwn yn y Campws y Bae newydd sydd wedi sefydlu Abertawe a Chymru fel canolfan ryngwladol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd.  Mae hyn wedi sbarduno datblygu diwylliant mentrus sydd wedi cynyddu cydweithredu â diwydiant ac effaith ymchwil, gan sicrhau enw da chwenychadwy ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion.

Bydd yr Is-ganghellor newydd yn dod â gweledigaeth strategol, arweinyddiaeth ac arloesedd ysbrydoledig i alluogi trawsnewid cynaliadwy a pharhaus y Brifysgol. Bydd yn meithrin diwylliant o ragoriaeth academaidd a chyfundrefnol yn y sefydliad, gan gynrychioli’r Brifysgol yn lleol yn Abertawe, ledled Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd rhagorol sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol, dylanwadu a chyfathrebu cryf.  Bydd yn cynnig ymrwymiad dwfn i ddarparu profiad myfyrwyr o safon ryngwladol yn ogystal â meddu ar hanes personol cryf o ran ymchwil.  Bydd gan ymgeiswyr cryf brofiad sylweddol o reoli cyllid mewn sefydliad mawr a chymhleth, gan feddu ar ddealltwriaeth o gyd-destun Cymreig y Brifysgol a’i gefnogi.  Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymrwymedig i ddysgu’r iaith Gymraeg at lefel sylfaenol.

Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae’n croesawu amrywiaeth barn, ymagwedd a chefndir ein holl weithwyr a myfyrwyr. Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw, ac rydym wedi bod yn aelod balch o Siarter Athena SWAN ers 2008. Rydym yn falch o ddal Gwobr Sefydliadol Arian – un o 13 o brifysgolion yn unig yn y DU, a’r unig brifysgol y tu allan i Grŵp Russel i lwyddo yn hyn o beth.

Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel cynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe ar y penodiad hwn. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, ewch i www.saxbam.com/jobs. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm Dydd Iau 15 Tachwedd 2018