Swansea University

Pro Vice Chancellor and Executive Dean, Faculty of Science and Engineering

Job Reference WASYP
Closing Date Wednesday 01 Jun 2022

Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration and discovery. We offer a compelling balance of excellent teaching and research, matched by an enviable quality of life on our two beachfront campuses. Having celebrated our centenary year in 2020, we are extremely proud of how our University has contributed to the transformation of Swansea as a city of distinction. With over 20,000 students, we have enjoyed a period of tremendous growth. We are ranked Top University in Wales and a Top 25 UK University in the Guardian University Guide 2022.

Reporting to the Provost, the Pro Vice Chancellor and Executive Dean for the Faculty of Science and Engineering (PVC ED–FSE) is accountable for the strategic leadership of the Faculty, ensuring its academic and financial objectives are met, and contributing to the wider University leadership as a member of the Senior Leadership Team.

The Pro Vice Chancellor and Executive Dean will be responsible for developing and delivering a Faculty strategy, setting out plans to enhance the quality of our academic endeavour as well as the reputation of the Faculty’s disciplines at Welsh, national and international levels. Driving efficiency and effectiveness, they will work collegiately to develop new income streams, achieve financial sustainability, and meet strategic objectives. The post holder will be expected to foster a culture of inclusivity and empowerment in alignment with the University’s values.

Strong candidates for the role will bring an established international reputation in a discipline aligned to the Faculty and an outstanding track record of senior leadership at relevant scale. They will demonstrate the ability to think strategically, manage resources effectively, and work with colleagues to deliver results and drive innovation. Outstanding interpersonal, communication and stakeholder management skills, will also be key.

Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to Swansea University on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference WASYP. Alternatively, telephone +44 (0)20 7227 0880 (during office hours). Applications should be received by noon on 1st June 2022.

 

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod. Rydym yn cynnig cydbwysedd atyniadol rhwng addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, ynghyd ag ansawdd bywyd rhagorol ar ein dau gampws ar lan y môr. A ninnau wedi dathlu ein canmlwyddiant yn 2020, rydym yn hynod falch o sut mae ein Prifysgol wedi cyfrannu at drawsnewid Abertawe’n ddinas rhagoriaeth. Gyda thros 20,000 o fyfyrwyr, rydym wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol. Ni yw’r Brifysgol Orau yng Nghymru ac ymysg y 25 Prifysgol Orau yn y DU yn ôl Guardian University Guide 2022.

Yn atebol i’r Profost, bydd y Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol y Gyfadran, gan sicrhau bod ei hamcanion academaidd ac ariannol yn cael eu bodloni, ac yn cyfrannu at arweinyddiaeth ehangach y Brifysgol fel aelod o’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth.

Bydd y Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni strategaeth y Gyfadran, gan bennu cynlluniau i wella ansawdd ein haddysgu academaidd yn ogystal ag enw da disgyblaethau’r Gyfadran yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gan ysgogi effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, bydd yn gweithio’n golegol i ddatblygu ffrydiau incwm newydd, cyflawni cynaliadwyedd ariannol a bodloni amcanion strategol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd feithrin diwylliant o gynwysoldeb a grymuso sy’n cyd-fynd â gwerthoedd y Brifysgol.

Bydd gan ymgeiswyr cryf am y rôl enw da rhyngwladol sefydledig mewn disgyblaeth sy’n cyd-fynd â’r Gyfadran a hanes rhagorol o uwch-arweinyddiaeth ar raddfa berthnasol.  Bydd yn dangos y gallu i feddwl yn strategol, rheoli adnoddau’n effeithiol, a gweithio gyda chydweithwyr i gyflawni canlyniadau ac ysgogi arloesedd. Bydd sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid rhagorol hefyd yn allweddol.

Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe . I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut i gyflwyno cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio’r cyfeirnod WASYP. Neu gallwch ffonio +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau gwaith). Dylid derbyn ceisiadau erbyn canol dydd ar 1 Mehefin 2022.

Having celebrated our centenary year in 2020, we are extremely proud of how our University has contributed to the transformation of Swansea as a city of distinction.