Amgueddfa Cymru
Director of Collections and Research / Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil
Amgueddfa Cymru is one of the UK’s leading cultural institutions, a family of seven national museums and one collections centre, home to over five million objects that tell the story of Wales and connect with global histories. With a clear purpose to inspire learning and enjoyment for everyone through the national collection of Wales, Amgueddfa Cymru aims to be a living museum and national collection, unique in the world – showcasing the skills, traditions and places of Wales’ past, present and future, inspiring everyone and creating a living legacy for generations to come. The museum is now at a landmark moment in its history, as the organisation prepares to celebrate 100 years of inspiring and educating all who visit the sites and to set about re-imagining Amgueddfa Cymru for the next 100 years. This new strategy is ambitious, outward-looking, and places the national collections at the heart of everything they do. Rooted in the Welsh communities, this new and exciting strategy also includes the major redevelopment of the National Slate Museum in Llanberis, due to reopen in 2027, and a major redevelopment of the National Museum in Cardiff.
The Director of Collections and Research will play a central role in this transformation, leading a division of around 200 colleagues across collections, research, exhibitions, and conservation. Reporting to the Chief Executive, and working as part of the Senior Leadership Team, the Director will provide intellectual, strategic, and compassionate leadership to ensure the care, accessibility, and interpretation of the national collections. They will shape and deliver an ambitious exhibitions strategy, champion research excellence, and act as a visible ambassador for Amgueddfa Cymru across Wales and internationally.
The successful candidate will be an exceptional leader with a deep understanding of collections care and management, and a track record of delivering complex projects with imagination and integrity. They will be an inspiring manager, able to nurture talent and foster collaboration, with also representing Amgueddfa Cymru confidently on the national and international stage. A strategic thinker with excellent communication skills, they will combine academic rigour with creativity, inclusion, and a commitment to the highest standards of public service. This is a truly rare and exciting opportunity to help shape the future of Wales’s national collections, ensuring they inspire and engage audiences at home and around the world. The ability to speak Welsh on appointment is desirable. If the successful candidate does not currently speak Welsh, they will need to commit to complete a Sylfaen (foundation) course within the first year with the expectation that they reach the Uwch (higher) level within a reasonable, mutually agreed timescale.
Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to the Amgueddfa Cymru on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference EBWGA. Alternatively email Belinda.beck@saxbam.com. Applications should be received by noon on 30th September 2025. You are welcome to apply in Welsh, your application will not be treated less favourably.
Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol y Deyrnas Unedig, yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol ac un ganolfan gasgliadau, sy’n gartref i fwy na phum miliwn o wrthrychau sy’n adrodd hanes Cymru ac yn cysylltu â hanesion byd-eang. Gyda’r pwrpas clir o ysbrydoli dysgu a mwynhad i bawb drwy gasgliad cenedlaethol Cymru, nod Amgueddfa Cymru yw bod yn amgueddfa a chasgliad cenedlaethol byw, unigryw yn y byd – gan arddangos sgiliau, traddodiadau a lleoedd gorffennol, presennol a dyfodol Cymru, gan ysbrydoli pawb a chreu etifeddiaeth fyw ar gyfer cenedlaethau i ddod. Erbyn hyn mae’r amgueddfa ar gyfnod nodedig yn ei hanes, wrth i’r sefydliad baratoi i ddathlu 100 mlynedd o ysbrydoli ac addysgu pawb sy’n ymweld â’r safleoedd a mynd ati i ailddychmygu Amgueddfa Cymru am y 100 mlynedd nesaf. Mae’r strategaeth newydd hon yn uchelgeisiol, yn edrych allan, ac yn gosod y casgliadau cenedlaethol wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud. Wedi’i gwreiddio yng nghymunedau Cymru, mae’r strategaeth newydd a chyffrous hon hefyd yn cynnwys ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, y disgwylir iddi ailagor yn 2027, ac ailddatblygu mawr ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Bydd y Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn chwarae rhan ganolog yn y trawsnewidiad hwn, gan arwain adran o ryw 200 o gydweithwyr ar draws casgliadau, ymchwil, arddangosfeydd a chadwraeth. Gan adrodd i’r Prif Weithredwr, a gweithio fel rhan o’r Uwch Dîm Arweinwyr, bydd y Cyfarwyddwr yn darparu arweinyddiaeth ddeallusol, strategol a thosturiol i sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn derbyn gofal, yn hygyrch ac yn cael eu dehongli. Bydd yn llunio ac yn cyflwyno strategaeth arddangosfeydd uchelgeisiol, yn hybu rhagoriaeth mewn ymchwil, ac yn gweithredu fel llysgennad gweladwy i Amgueddfa Cymru ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd eithriadol gyda dealltwriaeth ddofn o ofal a rheolaeth casgliadau, a hanes o gyflawni projectau cymhleth â dychymyg ac uniondeb. Bydd yn rheolwr ysbrydoledig, yn gallu meithrin talent a hybu cydweithio, gan gynrychioli Amgueddfa Cymru yn hyderus ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol hefyd. Yn feddyliwr strategol â sgiliau cyfathrebu rhagorol, bydd yn cyfuno trylwyredd academaidd â chreadigrwydd, cynhwysiant ac ymrwymiad i safonau uchaf gwasanaeth cyhoeddus. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol brin a chyffrous i helpu i lunio dyfodol casgliadau cenedlaethol Cymru, gan sicrhau eu bod yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd gartref a ledled y byd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg adeg y penodi yn ddymunol. Os nad yw’r ymgeisydd yn siarad Cymraeg adeg ei benodi, bydd gofyn iddo ymrwymo i gwblhau cwrs Sylfaen o fewn blwyddyn i ddechrau’r swydd, gyda’r disgwyliad y bydd yn cyrraedd lefel Uwch o fewn cyfnod rhesymol a gytunir ar y cyd.
Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel cynghorydd asiantaeth gyflogaeth i Amgueddfa Cymru ar y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio’r cyfeirnod EBWGA. Fel arall, anfonwch neges ebost at Belinda.beck@saxbam.com. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar ddydd Mawrth 30 Medi 2025. Mae croeso i chi ymgeisio yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol.