This role has expired

Royal Welsh College of Music and Drama

Chair

Job Reference WAXKB
Closing Date Monday 15 May 2023 (Now Expired)

Royal Welsh College of Music & Drama, situated in Cardiff between Bute Park and North Road, is one of the UK’s eight Royal colleges and drama schools and has been providing specialist higher education training in music and drama at the highest level for nearly 75 years. Training through performance, exhibition and industry collaborations, we work to a distinctive model that treats our students as young professionals from the moment they arrive in Cardiff. Ten years ago, the College launched our beautiful and cutting-edge arts centre with its new gallery, theatre, world class concert hall and foyer now receiving a steady 55,000 attendees year-round.

Inspired by the possibilities of performance and creative diversity, we champion collaboration and empower excellence in all its forms. Passion and craft entwine with experience and play to elevate, provoke, push and transform.

The Chair is responsible for the effective governance of the RWCMD as a wholly owned subsidiary of the University of South Wales (USW). The Chair also serves as a board member for USW. The Chair provides strategic leadership and direction to the College, working closely with the Principal and Board Members. The Chair’s leadership will ultimately ensure the RWCMD is positioned as a first-class educator, innovator and arts centre.

We are looking for an exceptional individual with proven experience of chairing committees or boards, ideally with experience of complex governance structures. They will bring a strong understanding of board leadership from experience within the public, private or third sectors. Strong candidates will be committed to excellence, equality and diversity, and to promoting a collaborative culture.  Experience of successfully partnering with external stakeholders including funders, government, other education institutions and/or the creative industries is highly desirable. A keen interest in conservatoire education and the performing arts will also be important, as is a commitment to the values, aims and objectives of the College.

Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to RWCMD on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference WAXKB. Alternatively, telephone +44 (0)20 7227 0880 (during office hours). Applications should be received by noon on Monday 15th May 2023.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd rhwng Parc Bute a North Road, yn un o wyth coleg ac ysgol ddrama Frenhinol y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod yn darparu hyfforddiant addysg uwch arbenigol mewn cerddoriaeth a drama ar y lefel uchaf ers bron i 75 mlynedd. Gan ein bod yn hyfforddi trwy berfformiadau, arddangosfeydd a chydweithio â diwydiant, rydym yn gweithio i fodel nodedig sy’n trin ein myfyrwyr fel gweithwyr proffesiynol ifanc o’r eiliad y maent yn cyrraedd Caerdydd. Ddeng mlynedd yn ôl, lansiodd y Coleg ein canolfan gelfyddydau hardd a blaengar gyda’i horiel newydd, theatr, neuadd gyngerdd a chyntedd o’r radd flaenaf bellach yn derbyn 55,000 o fynychwyr cyson drwy gydol y flwyddyn.

Wedi’n hysbrydoli gan bosibiliadau perfformiad ac amrywiaeth greadigol, rydym yn hyrwyddo cydweithredu ac yn grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau. Mae angerdd a chrefft yn cydblethu â phrofiad a chwarae i ddyrchafu, pryfocio, gwthio a thrawsnewid.

Mae’r Cadeirydd yn gyfrifol am lywodraethu CBCDC yn effeithiol fel is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol De Cymru (PDC). Mae’r Cadeirydd hefyd yn aelod o fwrdd PDC. Mae’r Cadeirydd yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol i’r Coleg, gan weithio’n agos gyda’r Pennaeth ac Aelodau’r Bwrdd. Yn y pen draw, bydd arweinyddiaeth y Cadeirydd yn sicrhau bod CBCDC yn sefydlu ei hun fel addysgwr, arloeswr a chanolfan gelfyddydau o’r radd flaenaf.

Rydym yn chwilio am unigolyn eithriadol gyda phrofiad profedig o gadeirio pwyllgorau neu fyrddau, yn ddelfrydol gyda phrofiad o strwythurau llywodraethu cymhleth. Byddant yn dod â dealltwriaeth gref o arweinyddiaeth bwrdd o brofiad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Bydd ymgeiswyr cryf wedi ymrwymo i ragoriaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i hyrwyddo diwylliant cydweithredol.  Mae profiad o weithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys cyllidwyr, y llywodraeth, sefydliadau addysg eraill a/neu’r diwydiannau creadigol yn ddymunol iawn. Bydd diddordeb brwd mewn addysg conservatoire a’r celfyddydau perfformio hefyd yn bwysig, yn ogystal ag ymrwymiad i werthoedd, nodau ac amcanion y Coleg.

Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel cynghorydd asiantaeth gyflogi i CBCDC ar y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio cyfeirnod WAXKB. Fel arall, ffoniwch +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau swyddfa). Dylid derbyn ceisiadau erbyn hanner dydd, ar ddydd Llun 15 Mai 2023.

Training through performance, exhibition and industry collaborations, we work to a distinctive model that treats our students as young professionals from the moment they arrive in Cardiff.