Swansea University

Chief Research & Enterprise Officer

Job Reference WASYR
Closing Date Monday 12 Jun 2023

Swansea University is a research-led institution that thrives on exploration and discovery. We offer a compelling balance of excellent teaching and research, matched by an enviable quality of life on our two beachfront campuses. Having celebrated our centenary year in 2020, we are extremely proud of how our University has contributed to the transformation of Swansea as a city of distinction. With over 20,000 students, we have enjoyed a period of tremendous growth. We are ranked Top University in Wales and a Top 30 UK University in the Guardian University Guide 2023.

The Research Excellence Framework (REF) 2021 identified 86% of our research as three or four star, with over 90% of our impact being classed as having world-leading or internationally excellent reach and significance. The University has an outstanding track record of collaborating with industry and hosts around 40 companies on its two campuses, including the likes of Tata, Airbus and Pfizer.  The University has ambitions to further develop its research profile through collaboration with our local, international, and industrial partners alongside investing in our research infrastructure and staff.  To enable and support the delivery of these ambitions, Swansea has developed a new senior position, the Chief Research & Enterprise Officer.

Reporting to the Pro Vice-Chancellor (Research and Innovation), the Chief Research & Enterprise Officer will oversee the transformation of research and enterprise support services across the University, alongside contributing to strategic development in research and enterprise more generally. This highly influential role will lead on four key areas including research quality, PGR, enterprise and research development, and is a member of the professional services leadership team.  The role will interface with senior academic and professional services colleagues based in the faculties as well as within the central office, including the Chief Operating Officer and Vice-Chancellor.

Strong candidates for the role will bring a track record of leadership across research and/or enterprise activity.  They will possess experience of developing a dynamic and high-performing culture in support of delivering key services. They will demonstrate experience of strategic transformation across a complex organisation, an excellent customer service ethos and an ability to engage with a range of stakeholders at different levels. Outstanding interpersonal and communication skills will be key.

Saxton Bampfylde Ltd is acting as an employment agency advisor to Swansea University on this appointment. For further information about the role, including details about how to apply, please visit www.saxbam.com/appointments using reference WASYR. Alternatively, telephone +44 (0)20 7227 0880 (during office hours). Applications should be received by ­5pm on 12 June 2023.

 

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod. Rydym yn cynnig cydbwysedd atyniadol rhwng addysgu ac ymchwil ragorol, ynghyd ag ansawdd bywyd dymunol ar ein dau gampws ar lan y môr. A ninnau wedi dathlu ein canmlwyddiant yn 2020, rydym yn hynod falch o sut mae ein Prifysgol wedi cyfrannu at drawsnewid Abertawe’n ddinas rhagoriaeth. Gyda thros 20,000 o fyfyrwyr, rydym wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol. Ni yw’r Brifysgol Orau yng Nghymru ac ymysg y 30 Prifysgol Orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide 2023.

Nododd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 fod 86% o’n hymchwil o safon tair neu bedair seren, a bod gan fwy na 90% o’n heffaith gyrhaeddiad ac arwyddocâd sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagori’n rhyngwladol. Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol o gydweithredu â byd diwydiant ac mae ein dau gampws yn cynnig cyfleusterau i oddeutu 40 o gwmnïau, gan gynnwys Tata, Airbus a Pfizer. Mae gan y Brifysgol uchelgeisiau i ddatblygu ei phroffil ymchwil ymhellach drwy gydweithredu â’n partneriaid lleol, rhyngwladol a diwydiannol, ochr yn ochr â buddsoddi yn ein hisadeiledd a’n staff ymchwil. Er mwyn hwyluso a chefnogi’r broses o gyflawni’r uchelgeisiau hyn, mae Abertawe wedi datblygu uwch-swydd newydd, sef y Prif Swyddog Ymchwil a Menter.

Ac yntau’n atebol i’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Arloesi), bydd y Prif Swyddog Ymchwil a Menter yn goruchwylio’r gwaith o drawsnewid y gwasanaethau cymorth ymchwil a menter ym mhob rhan o’r Brifysgol, ochr yn ochr â chyfrannu at ddatblygu ymchwil a menter yn gyffredinol mewn modd strategol. Bydd deiliad y rôl ddylanwadol iawn hon yn arwain ar bedwar maes allweddol, gan gynnwys ansawdd ymchwil, ymchwil ôl-raddedig a datblygu menter ac ymchwil, a bydd yn aelod o dîm arweinyddiaeth y gwasanaethau proffesiynol. Bydd deiliad y rôl yn rhyngweithio ag uwch-weithwyr academaidd ac uwch-weithwyr y gwasanaethau proffesiynol yn y cyfadrannau yn ogystal ag yn y swyddfa ganolog, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredu a’r Is-ganghellor.

Bydd gan ymgeiswyr cryf am y rôl hanes o arwain gweithgarwch ymchwil a/neu fenter. Bydd yn meddu ar brofiad o feithrin diwylliant deinamig a llwyddiannus iawn wrth helpu i ddarparu gwasanaethau allweddol. Bydd yn arddangos profiad o drawsnewid strategol ar draws sefydliad cymhleth, ethos gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog a’r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid ar lefelau gwahanol. Bydd sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol yn allweddol.

Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe ar y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion ynghylch sut i gyflwyno cais, ewch i www.saxbam.com/appointments, gan ddefnyddio’r cyfeirnod WASYR. Neu gallwch ffonio +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau gwaith). Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm dydd Gwener, 23 Mehefin 2023.

Having celebrated our centenary year in 2020, we are extremely proud of how our University has contributed to the transformation of Swansea as a city of distinction.